Cymraeg

Mae Gabb and Co, a sefydlwyd yn 1760,  yn un o gwmnïoedd cyfraith hynaf y DU. Mae cleientiaid gennym ledled y DU ac rydym yn arbenigo mewn cynghori cwmnïoedd, busnesau ac unigolion. Darparwn gyngor prydlon ac ymarferol ar amrediad eang o faterion cyfreithiol sy’n effeithio ar unigolion, busnesau a’r gymuned amaethyddol.

Rydym yn falch o’n bri yng Nghymru ac yn y gymuned leol. Mae’r iaith Gymraeg yn bwysig i’r gymuned, ac mae Gabb and Co yn awyddus i gymryd unrhyw gam rhesymol posibl er mwyn cefnogi ei defnydd. Ydym yn ymateb yn hyblyg i anghenion ein cleientiaid, felly os oes well gennych drafod gyda’r cwmni trwy gyfrwng y Gymraeg rhowch wybod i ni a gwnawn ein gorau i’ch cynorthwyo, o fewn rheswm ac mewn modd sy’n gyson a’n enw da fel cwmni sy’n darparu gwaith o ansawdd uchel, sy’n cyfathrebu yn glir ac sy’n hawdd dod atom. Gwelwch ein gwefan am wybodaeth bellach ar ein harbenigeddau a sgiliau. Os oes gennych unrhyw gwestiwn, cysylltwch ag un o’n cyfreithwyr am sgwrs heb ymrwymiad.